Mae Triangle yn falch o weithio ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru a’u helpu i gefnogi busnesau ledled Cymru.    
 
Mae Rhaglen Datblygu’r Gweithlu, a ariennir yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, wedi ei llunio er mwyn darparu cyngor a chyfarwyddyd o’r radd flaenaf i gyflogwyr ym mhob rhan o Gymru ac mae’n cynnig cyfle i sefydliadau dderbyn cyllid a chymorth ar gyfer cyflawni safon Buddsoddwyr mewn Pobl.  Mae’n helpu cyflogwyr hefyd i adnabod a rhoi sylw i anghenion    sgiliau sylfaenol ymysg eu gweithwyr a datblygu’r sgiliau arweinyddiaeth a rheoli sydd eu hangen ar eu cwmni i fynd â hwy ymlaen yn llwyddiannus i’r dyfodol.        

Mae Triangle yn darparu’r rhan o’r rhaglen sy’n helpu cyflogwyr i adnabod eu hanghenion, mae’n eu paru gyda’r cymorth a’r cyllid sydd ar gael, ac yna’n eu helpu trwy’r broses.     

Os yw eich busnes yng Nghymru ac yr ydych yn dymuno trafod y cyllid a’r cymorth sydd ar gael i chi, cysylltwch â’n tîm Cymru ar 0870 950 neu e-bostio workforcedevelopment@trianglefusion.co.uk

 

SWYDDFA CAERDYDD
Tŷ Sofia
28 Heol yr Eglwys Gadeiriol
Caerdydd CF11 9LJ

T: 029 2066 0253
F: 029 2066 0254