Mae Triangle yn falch o’u gwreiddiau yng Nghymru, ac o’u twf parhaol ers y dyddiau cynnar hynny rhyw 20 mlynedd yn ôl pan ddechreuodd y busnes yn fenter gymharol ddinod yng Ngogledd Cymru.
Yn fuan iawn y dechreuodd y busnes dyfu ac ymhen ychydig o amser – gyda baich y gwaith yn cynyddu – yn cynnwys contract i ddarparu nifer o raglenni Menter Hyfforddi Cwmnïau Bach yng Ngogledd Cymru – a chynnydd yn sgil hynny yn nifer y gweithwyr – gwelwyd bod angen adeiladau mwy.
Yn sgil rhagor o gontractau tebyg i ymgymryd â’r Rhaglen Busnesau Bach mewn rhannau eraill o Loegr, agorwyd swyddfa gyntaf Triangle yng Nghaerloyw a dyfodd ei hun yn gyflym i dderbyn gwaith ym mhob rhan o Dde Lloegr, Llundain a De Cymru.
Yn y cyfamser, yn sgil rhagor o gynnydd yn y busnes yn ardal Llundain, sefydlwyd swyddfa newydd yn Llundain, sydd erbyn heddiw yn Shepherds Bush.
Yn 2001 prynwyd y cwmni gan y rheolwyr, sef Eve Slater a David Michael (y Rheolwyr Gyfarwyddwyr presennol) ac yn sgil hynny y newidiodd yr enw i Triangle, fel y mae heddiw.
Yn ystod haf 2008 agorwyd yn swyddogol safle newydd Cymru yng Nghaerdydd, o dan arweiniad y cyfarwyddwr a’r sefydlydd Laurence Waxman, er mwyn arwain rhagor eto o ehangu yng Nghymru. Mae Triangle yn parhau i dyfu a datblygu i’r graddau nad oes llawer o debygrwydd rhwng ffurf, strwythur a chwmpas y cwmni presennol a’r busnes gwreiddiol, heblaw bod yr enw Triangle yn aros ac yn parhau i gynrychioli ac ymgorffori’r union egwyddorion hynny o onestrwydd ac unplygrwydd, yn dal i ddylanwadu’n enfawr, cynnig gwasanaethau o’r radd flaenaf a rhagori ar ddisgwyliadau cleientiaid yn gyson.
Am ragor o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â’n tîm Cymru ar 029 2066 0253 neu e-bostio triangle.wales@trianglefusion.co.uk