Cwmni gwasanaethau busnes yng Nghymru yw Triangle. Rydym yn darparu cymorth ymarferol, wedi’i addasu’n bwrpasol, i fusnesau a chyflogwyr trwy gyfrwng amrywiaeth aruthrol o raglenni arloesol a soffistigedig. Bydd llawer o’r rhaglenni hyn yn cael eu cynnal ar ran asiantaethau’r llywodraeth sydd yn y sector cyhoeddus – fel Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys elfennau hanfodol fel dysgu a sgiliau, datblygu’r gweithlu, broceri sgiliau, cynorthwyo pobl ddi-waith i gael swyddi, gwerthu a marchnata gan gynnwys defnyddio llawer rhagor ar y Gymraeg, a mentora ym maes arweinyddiaeth a rheolaeth a busnes. Ar ben hynny mae Triangle yn darparu cymorth strategol, o’r safon uchaf, i fusnesau mewn meysydd eraill fel ennill achrediadau ansawdd a safonau, ymchwil a gwerthuso, ymgynghoriaeth rheoli a chyngor ariannol.
Mae pwy ydym ni a sut y byddwn ni’n gweithredu yng Nghymru ac yn y DU drwyddi draw yn ymwneud, yn bendant iawn, â’n pobl, ein gweledigaeth a’n gwerthoedd: sef meithrin y berthynas waith, gydweithredol, gadarn sydd gennym eisoes â’r sector cyhoeddus, gyda darparwyr hyfforddiant a gyda sefydliadau eraill mewn diwydiant a masnach sy’n elwa’n uniongyrchol ar y gwasanaethau a’r arbenigedd y mae Triangle yn eu darparu.
Buom yn gweithredu’n hynod lwyddiannus yn y maes ers 20 mlynedd bellach, ers adeg sefydlu’r busnes gyntaf yng Ngogledd Cymru. Mae Triangle yn parhau i sicrhau llwyddiannau pendant, gan gysylltu pobl, prosesau a systemau yng Nghymru ac mewn lleoedd eraill yn y DU.
Byddwn yn gweithio â’r gymuned fusnes yng Nghymru er mwyn cynorthwyo i hybu a meithrin cryfder y cyflogwyr ac fe hoffem glywed gan sefydliadau sydd o’r un anian â ni, sefydliadau y gallwn ni gydweithio â hwy.
Fe hoffem fod yn rhan annatod o'ch llwyddiant.
I gael rhagor o wybodaeth byddwch cystal â chysylltu â’n tîm yng Nghymru ar 029 2066 0253 neu anfonwch e-bost at triangle.wales@trianglefusion.co.uk